Ezekiel 22

Pechodau Jerwsalem

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd! 3Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi ei dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr. 4Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd. 5Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion.

6“‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed. 7Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon. 8Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi! 9Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. a Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd. 10Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw. 11Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer. 12Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. b Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r Arglwydd, y Meistr.

13“‘“Dw i'n ysgwyd fy nwrn
22:13 ysgwyd fy nwrn Hebraeg, “curo fy nwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio.
arnoch chi. Mae'r holl elwa anonest yma, a'r holl dywallt gwaed yn eich plith chi yn gwneud i mi wylltio.
14Cawn weld faint o blwc sydd gynnoch chi! Tybed pa mor ddewr fyddwch chi pan fydda i'n delio gyda chi? Fi ydy'r Arglwydd, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd! 15Bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd, ac yn rhoi stop ar y cwbl. 16Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.”’”

Ffwrnais yr Arglwydd

17Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 18“Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi. d 19Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem. 20Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân. 21Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd! 22Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr Arglwydd, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’”

Pechodau arweinwyr Israel

23Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 24“Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’ 25Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon. 26Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i! 27Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio – yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau – er mwyn elw anonest. 28Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r Arglwydd ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff! e 29Mae pobl y wlad wedi bod yn gorthrymu'r bobl dlawd sydd mewn angen, a dwyn oddi arnyn nhw. Maen nhw wedi gormesu mewnfudwyr a'u trin nhw'n gwbl annheg.

30“Dyma fi'n edrych i weld os oedd rhywun fyddai'n trwsio'r wal ac yn sefyll yn y bwlch, fel bod dim rhaid i mi ddinistrio'r ddinas. Ond doedd neb. 31Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, a'u dinistrio nhw gyda tân fy ffyrnigrwydd. Dw i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.” Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud.

Copyright information for CYM